Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 4 Mehefin 2019
Amser:
08.30 -
09.36
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Ysgrifenyddiaeth y Siambr |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
Dydd Mercher
· Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Yn eu cyfarfod ar 2 Ebrill, cytunodd y Rheolwyr Busnes, dros dro, i drefnu eitem ar y cyd â'r Senedd Ieuenctid ar 26 Mehefin. Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor nad yw'r manylion wedi'u cadarnhau eto, felly nid yw'r eitem ar y Datganiad Busnes ar hyn o bryd, ond y bydd papur yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 19 Mehefin 2019 -
·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg - Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru
(60 munud) wedi'i gohirio tan 3 Gorffennaf
· Dadl ar Ddeiseb P-05-869: Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)
Dydd Mercher 26 Mehefin 2019 -
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Ar gais yr Aelod, cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer 19 Mehefin mewn perthynas â Rheoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i leihau maint y saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth wyth-Aelod i chwe Aelod yr un. Gofynnwyd i swyddogion ysgrifennu at Blaid Brexit ac Aelodau Annibynnol i ofyn am eu dewisiadau ar gyfer y lleoedd sy'n weddill ar Bwyllgorau.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y dylai dyraniad amser y Cyfarfod Llawn i grwpiau gwrthbleidiau ddilyn y gymhareb 11:10:4, er mwyn cynnal adlewyrchiad manwl o faint cymharol y grwpiau.
Nododd y Rheolwyr Busnes fod y Llywydd wedi cytuno i ganiatáu i Grŵp Brexit ofyn dau gwestiwn Arweinydd i'r Prif Weinidog, ac enwebu tri Gweinidog i ofyn dau gwestiwn llefarydd iddynt.
Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y cyngor cyfreithiol ar y cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 1.3. Gofynnwyd i'r swyddogion ddrafftio adroddiad yn nodi pam eu bod wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r newid ar hyn o bryd, ond i adolygu'r Rheolau Sefydlog perthnasol erbyn y chweched Cynulliad.
Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y canllawiau cyfredol ar gwestiynau llefarwyr a chytunwyd i newid y geiriad ychydig, er mwyn caniatáu i'r cwestiynau wyro oddi wrth thema eang mewn amgylchiadau eithriadol. Felly, mae'r Rheolwyr Busnes wedi cytuno ar y canllawiau a gasglwyd yn eu cyfanrwydd ac fe'u cyhoeddir yn fuan.
Nododd y Rheolwyr Busnes y ddau lythyr, ac awgrymu y gallai Cadeirydd y Pwyllgor ddymuno codi'r mater o Weinidogion yn mynychu slotiau Pwyllgorau ar brynhawn dydd Llun yn Fforwm y Cadeiryddion.
Aelodau'r Pwyllgor Busnes
Er bod Plaid Brexit yn gymwys i gael ei chynrychioli ar y Pwyllgor Busnes, cafodd y cynnig i ethol Caroline Jones fel aelod ei drechu ar 22 Mai. Mae'r Llywydd wedi derbyn cais gan Blaid Brexit i ail-gyflwyno'r cynnig i ethol Caroline Jones. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ail-gyflwyno'r cynnig a'i drefnu, dros dro, ar gyfer yfory, ond gofynnwyd i swyddogion wirio gyda Phlaid Brexit a oedd yr amseru yn briodol iddyn nhw.